Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 12 Tachwedd 2019

Amser y cyfarfod: 13.30
 


241(v3)  

------

<AI1>

1       Datganiad gan y Llywydd: Y Comisiynydd Safonau

 

</AI1>

<AI2>

2       Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Integriti mewn Safonau

 

</AI2>

<AI3>

3       Cwestiynau i'r Prif Weinidog

(60 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau.

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

4       Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

(30 munud)

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI4>

<AI5>

5       Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Nodi Dydd y Cofio a chefnogi cymuned ein Lluoedd Arfog

(45 munud)

</AI5>

<AI6>

6       Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru

(45 munud)

</AI6>

<AI7>

7       Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Y Model Cyflenwi Arfaethedig ar gyfer y Dyfodol ar gyfer Gwasanaeth Busnes Cymru

(45 munud)

</AI7>

<AI8>

8       Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) 2019

(15 munud)

NDM7181 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Hydref 2019.  

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

</AI8>

<AI9>

9       Dadl: Cysylltedd Digidol

(60 munud)

NDM7180 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru ers 2012 i wella cysylltedd digidol ledled Cymru drwy’r rhaglen Superfast Cymru, â  733,000 o eiddo wedi cael mynediad at fand eang ffibr cyflym erbyn hyn.

2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud y gwaith hwn mewn maes nad yw wedi ei ddatganoli yn sgil methiant Llywodraeth y DU ar y pryd i fuddsoddi’n ddigonol lle na fyddai’r farchnad fasnachol yn darparu.

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflawni ei chyfrifoldebau a buddsoddi mewn band eang sy’n gallu ymdopi â gigabit sy’n bodloni anghenion cartrefi a busnesau yng Nghymru, gan sicrhau bod: 

a) cyllid yn adlewyrchu’r heriau o roi seilwaith digidol ar waith yng Nghymru;

b) dull sy’n edrych o’r ‘tu allan i’r tu mewn’ yn cael ei ddilyn wrth gyflenwi, sy’n darparu cysylltedd i’r eiddo hynny mewn ardaloedd gwledig neu wledig iawn; ac

c) cysylltedd yn cael ei ddarparu yn gyntaf i’r eiddo hynny nad ydynt yn gallu derbyn band eang cyflym.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu:

a) at fethiant Llywodraeth Cymru i gyflawni ei haddewid i sicrhau y byddai gan bob eiddo preswyl a busnes, fand eang y genhedlaeth nesaf erbyn 2015;

b) bod rhai cymunedau wedi'u gadael gydag asedau wedi'u hynysu ar ôl cwblhau cam 1 Cyflymu Cymru;

c) at ddiffyg pontio di-dor rhwng defnyddio cam un a cham dau y cynllun Cyflymu Cymru;

d) at ddiffyg amserlen glir ar gyfer cyflenwi band eang cyflym i'r eiddo sy'n weddill.

 

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu:

a) bod Llywodraeth y DU yn cyflwyno rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol (USO) a fydd yn rhoi hawl clir, gorfodadwy i gartrefi a busnesau cymwys yn y DU ofyn am gysylltiad band eang digonol a fforddiadwy erbyn mis Mawrth 2020;

b) buddsoddiad Llywodraeth y DU i ddarparu band eang cyflym iawn a'i symbyliad ar gyfer buddsoddiad masnachol mewn cysylltiadau ffeibr llawn mewn lleoliadau gwledig a threfol ledled y DU gyfan;

c) ymrwymiad diweddar y Canghellor, o £5 biliwn, i ariannu defnyddio gallu-gigabit i 20 y cant o'r adeiladau anoddaf eu cyrraedd drwy ddull 'o'r tu allan i mewn';

d) cyhoeddiad diweddar o £1 biliwn gan Lywodraeth y DU a phedwar gweithredwr rhwydwaith dyfeisiadau symudol y DU i adeiladu rhwydwaith gwledig gyffredin a fyddai'n golygu bod cyrhaeddiad dyfeisiadau symudol 4G yn ymestyn i 95 y cant o dirwedd y DU;

e) ymrwymiad y Swyddfa Gartref i adeiladu'r seilwaith rhwydwaith ychwanegol sydd ei angen i ddarparu'r rhwydwaith gwasanaethau brys newydd a'r rhaglen gwasanaeth ardal estynedig, a fydd yn darparu gwasanaeth 4G masnachol yn ardaloedd gwledig Cymru na fyddai'n cael eu gwasanaethu fel arall.

 

Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyhoeddi diweddariadau chwarterol sy'n dangos nifer y safleoedd, ar gyfer pob ardal awdurdod lleol, a gysylltir o dan gam 2 o gontract Superfast Cymru;

b) gweithio gyda Llywodraeth y DU i gydweithio â phartneriaid masnachol i flaenoriaethu cysylltedd digidol y safleoedd hynny yng Nghymru nad oes ganddynt fynediad at wasanaethau band eang cyflym dibynadwy.

 

Gwelliant 4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am ddarparu gwell gwybodaeth - drwy ‘siop un stop’ - i’r rhai sydd ddim wedi cael eu cysylltu drwy raglen Cyflymu Cymru, ynglyn â sut arall y gallant gael mynediad cyflym i’r we.

</AI9>

<AI10>

10    Cyfnod pleidleisio

 

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 13 Tachwedd 2019

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>